Select Page

Rheoli’r broses recriwtio

Yn ystod y cwrs hwn byddwn yn trafod….

 

  1. Llunio swydd ddisgrifiad a phroffil person.
    • Paratoi hysbyseb swydd.
    • Nodi’r gofynion a ddymunir mewn ymgeiswyr.
    • Beth i beidio â chynnwys yn y disgrifiadau.
    • Cydymffurfio â chyfreithiau cyflogi a chyfle cyfartal .
  2. Paratoi ar gyfer y cyfweliad : y broses o gynllunio
    • Cynllunio a strwythuro’r cyfweliad.
    • Paratoi cwestiynau addas.
    • Creu delwedd addas ar gyfer y cyfweliad.
  3. Sgiliau allweddol ar gyfer cynnal y cyfweliad :
    • Cwestiynu a gwrando effeithiol.
    • Beth na ddylid ei ofyn?
    • Pwysigrwydd iaith y corff.
    • Cymryd nodiadau priodol.
    • Asesu ymgeiswyr yn wrthrychol.
    • Ceir sesiynau ymarferol gan ddefnyddio chwarae-rôl (wedi ei ffilmio) gyda mynychwyr y cwrs yn actio rhan ymgeiswyr a chyfwelwyr yn eu tro. Trafodir yr adborth er mwyn tanlinellu arferion da a drwg.
  4. Cwblhau’r broses o gyfweld  yn effeithiol.
    • Sbarduno ymgeiswyr llwyddiannus.
    • Darparu adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus.
    • Helpu’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymeryd â’r swydd.