Select Page

Rheoli prosiect effeithiol

 

Rhaid i fwyafrif o reolwyr  fod yn gyfrifol am brosiectau. All y rhain amrywio o drefnu cyfres o weithgareddau cymharol syml, hyd at brosiectau cymhleth sy’n costio miliynau ac yn  effeithio ar lawer o bobl. Fodd bynnag, mae na rai nodweddion sy’n gyffredin iddynt i gyd. Yn y sesiwn yma byddwn yn cyflwyno’r nodweddion hyn ac yn dangos sut i gymeryd ‘golwg hofrennydd’ o’r prosiect. Pwysleisir bod rhaid rheoli’r broses sy’n gysylltiedig  â’r prosiect.

Rhai o’r pynciau y byddwn yn eu trafod…

  1. Beth yw ‘Prosiect’?
  2. Edrych yn fanwl ar y broses o reoli prosiect.
  3. Pwysigrwydd ‘Cynllunio Effeithiol.’
  4. Rôl y Reolwr Prosiect.
  5. Cyfrifoldebau’r tîm sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
  6. Gwleidyddiaeth rheoli prosiect.
  7. Technegau rheoli prosiect.
  8. Gwneud i’r peth ddigwydd.
  9. Technegau ar gyfer mesur ffynniant.
  10. Pwysigrwydd datblygu strategaeth hyfforddi perthnasol.

Cliciwch ar y cyswllt isod i gael blas o’r cwrs hwn.

Blas ar reoli prosiect