Datblygu Cynllun i’ch Busnes
Un o’r dogfennau allweddol i unrhyw fusnes, sefydlog neu newydd, ydy Cynllun Busnes effeithiol.
Beth yw pwrpas cael Cynllun Busnes ?
- I grynhoi at ei gilydd y syniadau sy’ gen i
- I osod nodau a thargedau ar gyfer fy musnes newydd.
- I archwilio pa fath o gyllid fydd ei angen ar y busnes.
- I berswadio eraill eich bod o ddifri’ ac yn broffesiynol.
Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu cynllun sy’n berthnasol i’ch syniad busnes CHI!
Ymhlith y pynciau a drafodir…
- Pam ‘dwi eisiau cychwyn busnes?
- Pa fath o gwmni fydd gennyf?
- Beth yw nodweddion arbennig y cynnyrch neu wasanaeth rwy’n ei gynnig?
- Pa farchnad rwy’n anelu amdani?
- Datblygu cynllun marchnata.
- Sut byddaf i’n rheoli’r fusnes?
- Beth fydd ‘Cadwyn Fusnes’ y cwmni?
- Beth yw anghenion Cylludol y cwmni?