Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg
Datblygwyd cyfres o gyrsiau Busnes a Rheolaeth yn y Gymraeg gan Dr. John R. Thomas Cyf.
Darperir portffolio o fodiwlau sy’n astudio gwahanol agweddau o reoli:
(Am fwy o fanylion cliciwch y ddolen).
Darperir cyrsiau sy’n ymwneud a’r pynciau canlynol:
- Sgiliau arweinyddiaeth. Blas ar ddatblygu arweinwyr effeithiol
- Cyfathrebu effeithiol. Blas ar gyfathrebu’n effeithiol
- Datblygu cynllun busnes. Blas ar ddatblygu cyllun busnes
- Gwasanaeth cwsmer effeithiol. Blas ar wasanaethu’r cwsmer
- Rheoli prosiect effeithiol. Blas ar reoli prosiect
- Datrys problemau. Blas ar ddatrys problemau
- Rheoli amser. Blas ar reoli amser
- Rheoli proses o newid. Blas ar arwain mewn cyfnod o newid
- Trefnu swyddfa effeithiol. Blas o TREFN yn y swyddfa
- Hyfforddi hyfforddwyr.
- Datblygu tîm effeithiol.
- Rheoli a datblygu staff yn effeithiol.
- Recriwtio effeithiol.
Mae’r cyrsiau hyn yn galluogi sefydliadau i hyfforddi eu staff ar bynciau perthnasol i’w busnes neu weinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn bwysicach, mae’r cyrsiau yn pwysleisio’r elfen ymarferol, trwy ddangos sut y gellir defnyddio’r technegau hyn mewn sefyllfaoedd bob dydd, gan ddefnyddio ymarferion perthnasol er mwyn amlinellu sut y dylid eu defnyddio!
Eisioes darparwyd y cyrsiau hyn i sefydliadau megis S4C, Bwrdd Yr Iaith Gymraeg, Menter a Busnes ac Antur Teifi.
‘Yr Arweinydd Effeithiol’
Er enghraifft yn ein cwrs mwyaf poblogaidd ‘Yr Arweinydd Effeithiol’ fyddwn yn trafod y pynciau canlynol :
- Beth yw rôl arweinydd?
- Beth yw nodweddion arweinydd da (a drwg!)?
- Arwain yn ôl y Sefyllfa
- Ysgogi Aelodau’r Tîm
- Creu timoedd llwyddiannus trwy ddatblygu pobl
- Gosod amcanion priodol i’ch tîm
- Arwain mewn cyfnod o newid
- Cyfathrebu’n effeithiol fel arweinydd
- Sut byddaf i’n dysgu orau?
- Rheoli Amser Effeithiol
- Dirprwyo effeithiol
- Ymdrin â gwrthdaro