Select Page

Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg

 

 

Datblygwyd cyfres o gyrsiau Busnes a Rheolaeth yn y Gymraeg gan Dr. John R. Thomas Cyf.

 

Darperir portffolio o fodiwlau sy’n astudio gwahanol agweddau o reoli:

Portffolio o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg oddiwrth Dr.-J.-R.Thomas Associates

(Am fwy o fanylion cliciwch y ddolen).

Darperir cyrsiau sy’n ymwneud a’r pynciau canlynol:

 

Mae’r cyrsiau hyn yn galluogi sefydliadau i hyfforddi eu staff ar bynciau perthnasol i’w busnes neu weinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn bwysicach, mae’r cyrsiau yn pwysleisio’r elfen ymarferol, trwy ddangos sut y gellir defnyddio’r technegau hyn mewn sefyllfaoedd bob dydd, gan ddefnyddio ymarferion perthnasol er mwyn amlinellu sut y dylid eu defnyddio!

Eisioes darparwyd y cyrsiau hyn i sefydliadau megis S4C, Bwrdd Yr Iaith Gymraeg, Menter a Busnes ac Antur Teifi.

 

‘Yr Arweinydd Effeithiol’ 

Er enghraifft yn ein cwrs  mwyaf poblogaidd  ‘Yr Arweinydd Effeithiol’  fyddwn yn trafod y pynciau canlynol :

  • Beth yw rôl arweinydd?
  • Beth yw nodweddion arweinydd da (a drwg!)?
  • Arwain yn ôl y Sefyllfa
  • Ysgogi Aelodau’r Tîm
  • Creu timoedd llwyddiannus trwy ddatblygu pobl
  • Gosod amcanion priodol i’ch tîm
  • Arwain mewn cyfnod o newid
  • Cyfathrebu’n effeithiol fel arweinydd
  • Sut byddaf i’n dysgu orau?
  • Rheoli Amser Effeithiol
  • Dirprwyo effeithiol
  • Ymdrin â gwrthdaro