Select Page

Datblygu Cynllun i’ch Busnes

Un o’r dogfennau allweddol  i unrhyw fusnes, sefydlog neu newydd, ydy Cynllun Busnes effeithiol.

Beth yw pwrpas cael Cynllun Busnes ?

  • I  grynhoi at ei gilydd y syniadau sy’ gen i
  • I osod   nodau a thargedau  ar gyfer  fy musnes newydd.
  • I archwilio  pa fath o gyllid fydd ei angen ar y busnes.
  • I berswadio eraill eich bod o ddifri’ ac yn broffesiynol.

Bydd y cwrs  hwn yn canolbwyntio ar  ddatblygu cynllun sy’n berthnasol i’ch  syniad  busnes  CHI!

Ymhlith y pynciau a drafodir…

  • Pam ‘dwi eisiau cychwyn busnes?
  • Pa fath o gwmni fydd gennyf?
  • Beth yw nodweddion arbennig y cynnyrch neu wasanaeth rwy’n ei gynnig?
  • Pa farchnad rwy’n anelu amdani?
  • Datblygu cynllun marchnata.
  • Sut byddaf i’n rheoli’r fusnes?
  • Beth fydd ‘Cadwyn Fusnes’ y cwmni?
  • Beth yw anghenion Cylludol y cwmni?